Session 7: Use of Welsh

Mae Hafod y Cwm yn fferm hanesyddol sydd wedi`i hadfer yn hyfryd

        Hafod y Cwm is a historic farm which has been restored beautifully

Mae casgliad o letyau gwyliau wedi`u creu o amgylch yr iard wreiddiol

         A collection of holiday apartments has been created around the original yard

Y Ffermdy: Y ffermdy cerrig gwreiddiol gyda golygfeydd godidog o`r mynyddoedd Eryri

         The Farmhouse: The original stone farmhouse with magnificent views of the mountains of Snowdonia

Mae gan y ffermdy dair ystafell wely ac mae`n addas ar gyfer hyd at chwech o bobl

         The farmhouse has three bedrooms and is suitable for up to six people

Y Stabl: Adeilad wedi`i adfer yn hyfryd gyda thrawstiau pren gwreiddiol

         The Stable: A beautifully restored building with original timber beams

Mae gan y stabl ddwy ystafell wely, gyda lle i hyd at bedwar o bobl

         The stable has two bedrooms, with room for up to four people

Llaethdy: Trosiad hen laethdy y fferm gan gadw`r lloriau llechfaen gwreiddiol

         Dairy: Conversion of the old farm dairy keeping the original slate floors

Mae`r ffenestr lydan yn y lolfa yn cynnig golygfeydd anhygoel o`r mynyddoedd

         The picture window in the lounge offers amazing views of the mountains

Mae gan y llaethdy un ystafell wely sengl ac un ystafell wely ddwbl

         The dairy has one single bedroom and one double bedroom

Mae`r holl lletyau yn fodern ac wedi`u cyfarparu`n dda

         All the appartments are modern and well equipped

Mae gan y ceginau gwcer trydan, microdon, oergell a pheiriant golchi llestri

         The kitchens have an electric cooker, microwave, fridge and dishwasher

Mae gan y lolfeydd setiau teledu sgrin eang a stofiau llosgi coed

         The lounges have large screen televisions and wood burning stoves